ACES & Obesity/ ACEs a Gordewdra

The American Kaiser Permannte ACEs study originated at an obesity clinic in San Diego. Dr Felitti was puzzled by the number of patients who had attended the weight loss programme for a period of time, lost weight and then disengaged, before regaining  weight.

He decided to interview them, to help solve the mystery. By asking different questions regarding their disengagement, about their childhood experiences and backgrounds, he was able to make the link between patients’ relationship with food, and Adverse Childhoods Experiences. One way is that the food became a solution that made them feel better. Eating soothed their feelings of anxiety, fear, anger, sadness and shame – it worked like alcohol or tobacco or methamphetamines. Not eating increased their anxiety, sadness, and fear to levels that were intolerable. . [Source: https://acestoohigh.com/2012/10/03/the-adverse-childhood-experiences-study-the-largest-most-important-public-health-study-you-never-heard-of-began-in-an-obesity-clinic/]

ACEs knowledge is spreading throughout Wales, and we’re seeing transformational change and examples of people working differently. At a trauma-informed  Weight Management Service at Cardiff and Vale UHB, such a shift has occurred. Clinical Psychologist, Dr Sinead Singh tells us more in this blog post.

-

As a clinical psychologist, it is standard practice to understand an individual’s psychological and physical well being in the context of past life experiences and developmental history. This thinking helps to inform the way in which we begin to understand an individual’s current behaviour. When considering a person living with obesity, there can often be a focus on the individual’s current diet and exercise routine whilst neglecting to explore the individual’s life experiences and past. Such an approach, of overly focusing on diet and exercise, in isolation of understanding the individual’s life experiences, can have negative consequences. For example, ignoring life experience, and a range of other psychosocial risk factors for being overweight, may result in experiences of stigmatisation – i.e. the professional may unintentionally trigger feelings of worthlessness, disgrace, and disapproval. This can have the opposite effect from the intention of the professional – contributing to cyclical obesity maintained via weight based stigma leading to further weight gain (see figure below).

Sinead diagram.jpg

Exploring an individual’s past experiences collaboratively allows us to make sense of why an individual may be overweight. For example, an individual who has experienced an adverse childhood event (ACE) such as sexual abuse, may unconsciously view weight as a protective barrier against further abuse. The weight gain is a mechanism by which the individual may feel safe by believing they are less attractive to perpetrators and therefore less likely to be a target for sexual abuse. The need to feel safe is of paramount importance to all of us – a core human need. For the individual, weight loss may trigger feelings of fear, vulnerability and being unsafe, which may result in repeated weight regain. The likelihood of this trajectory continuing is increased when the individual’s weight loss is approached solely from a dietary and physical activity perspective.

Alongside developing a trauma-informed Level 3 Specialist Weight Management Service, my personal experience of utilising the ACE-14 has been helpful in beginning to address stigma and its consequences. For example, the ACE-14 and associated materials/research has enabled conversations about the relevance of life experiences; has helped to break down the artificial divide between psychological and physical health experiences; and started to provide a useful alternative  to an over-medicalised approach to weight loss.  The ACE-14 has provided us with a language that is holistic, shared, meaningful and pragmatically informative in developing personalised care plans for individuals. Additionally, it has concretely evidenced the role of our experiences in how and why we use food as a coping strategy for distress that often results in individuals being overweight and living with obesity.

copy of twitter template 6.png

ACES are common experiences within the general population. Within our service, they are more common. It is important that we continue as health professionals to build bridges for working together by exploring integrative approaches which enable us to offer trauma informed interventions and services. This in turn will allow individuals to process and make meaning of the adversity they experienced in order to improve their physical well-being. Using an integrative formulation approach, psychologists are best placed to be part of these discussions. It is vital for medical services to have access to psychological expertise.

It is positive and reassuring as a clinician to know that the Public Health Wales ACE Hub is raising awareness about the importance of understanding the impact of our experiences on our psychological and physical well-being. My concern is that perhaps the government and health professionals are not placing enough emphasis on the importance of the work being conducted at the ACE Hub and the extended benefits this may have on other important campaigns such as tackling obesity. My hope is that the government will look to enhance the ACE Hub in Wales and provide clear health pathways that include access to psychological expertise that can integrate a trauma informed approach into everyday medical services.  Wales has an opportunity to become a trauma informed country inspired by Scotland, aiming to be the world’s first trauma informed nation. 

++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++

Cychwynnodd astudiaeth ynghylch ACEs gan sefydliad Kaiser Permannte o America mewn clinig gordewdra yn San Diego.  Roedd nifer y cleifion a oedd wedi mynychu'r rhaglen colli pwysau am gyfnod, colli pwysau ac rhoi'r gorau i fynychu cyn adennill pwysau yn benbleth i Dr Felitti.

Penderfynodd eu cyfweld, er mwyn helpu i ddatrys y dirgelwch. Trwy ofyn cwestiynau gwahanol am eu penderfyniad i roi'r gorau i fynychu'r rhaglen, am eu profiadau yn ystod eu plentyndod ac am eu cefndiroedd, llwyddodd i wneud y cysylltiad rhwng perthynas cleifion â bwyd, a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Un ffordd yw bod y bwyd wedi dod yn ateb a wnaeth iddynt deimlo'n well. Roedd bwyta'n lleddfu eu teimladau o bryder, ofn, dicter, tristwch a chywilydd - roedd yn gweithio fel alcohol neu dybaco neu fethamphetaminau. Roedd peidio â bwyta yn cynyddu eu pryder, eu tristwch a'u hofnau i lefelau annioddefol. . [Ffynhonnell: https://acestoohigh.com/2012/10/03/the-adverse-childhood-experiences-study-the-largest-most-important-public-health-study-you-never-heard-of-began-in-an-obesity-clinic/]

Mae gwybodaeth am ACEs yn lledaenu ledled Cymru, ac rydym yn gweld newid trawsnewidiol ac enghreifftiau o bobl yn gweithio'n wahanol. Mewn Gwasanaeth Rheoli Pwysau sydd wedi'i lywio gan ddealltwriaeth o drawma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae newid o'r fath wedi digwydd. Cawn wybod rhagor gan Dr Sinead Singh, sy'n Seicolegydd Clinigol, yn y Blog Hwn.

-

“Fel seicolegydd clinigol, mae'n arfer safonol deall lles seicolegol a chorfforol unigolyn yng nghyd-destun profiadau bywyd yn y gorffennol a'i hanes datblygiadol. Mae'r feddylfryd hon yn helpu i lywio'r ffordd yr ydym yn dechrau deall ymddygiad presennol unigolyn. Wrth ystyried unigolyn sy'n byw gyda gordewdra, bydd ffocws yn aml ar drefn bresennol yr unigolyn o ran deiet ac ymarfer corff, ond heb roi sylw i archwilio profiadau bywyd yr unigolyn a'i orffennol. Gall dull o'r fath, sy'n canolbwyntio'n ormodol ar ddeiet ac ymarfer corff, heb ddeall profiadau bywyd yr unigolyn, arwain at ganlyniadau negyddol. Er enghraifft, gall anwybyddu profiad bywyd, ac amrywiaeth o ffactorau risgiau seicogymdeithasol eraill ar gyfer bod dros bwysau, arwain at stigmateiddio - h.y. gall y gweithiwr proffesiynol sbarduno teimladau o fod yn ddi-werth, gwarth, ac anghymeradwyaeth yn anfwriadol. Gall hyn gael effaith sy'n groes i fwriad y gweithiwr proffesiynol - gan gyfrannu at ordewdra cylchol sy'n cael ei gynnal drwy stigma seiliedig ar bwysau sy'n arwain at ennill rhagor o bwysau (gweler y ffigur isod).

cycle image welsh.png

Mae archwilio profiadau unigolyn yn y gorffennol yn caniatáu i ni wneud synnwyr o pam y gall unigolyn fod dros bwysau. Er enghraifft, gall unigolion sydd wedi profi digwyddiad niweidiol yn ystod plentynod (ACE), megis camdriniaeth rywiol, ystyried yn anymwybodol bod pwysau yn rhwystr amddiffynnol rhag camdriniaeth ychwanegol. Mae'r cynnydd mewn pwysau yn fecanwaith y gall unigolion deimlo'n ddiogel ynddo drwy gredu eu bod yn llai deniadol i droseddwyr ac felly'n llai tebygol o fod yn darged ar gyfer camdriniaeth rywiol. Mae'r angen i deimlo'n ddiogel o'r pwys mwyaf i bawb ohonom - angen dynol sylfaenol. I'r unigolyn, gall colli pwysau sbarduno teimladau o ofn, bod yn agored i niwed a bod yn anniogel, a allai arwain at ennill pwysau unwaith dro ar ôl tro. Bydd y tebygolrwydd y gwnaiff y dilyniant hwn barhau yn cynyddu os byddir yn mynd i'r afael â cholled pwysau'r unigolyn o safbwynt deiet a gweithgarwch corfforol yn unig.

Ynghyd â datblygu Gwasanaeth Rheoli Pwysau Arbenigol ar Lefel 3 sydd wedi'i lywio gan wybodaeth am drawma, mae fy mhrofiad personol o ddefnyddio'r ACE-14 wedi bod yn ddefnyddiol wrth ddechrau mynd i'r afael â stigma a'i ganlyniadau. Er enghraifft, mae'r ACE-14 a'r deunyddiau/ymchwil cysylltiedig wedi galluogi sgyrsiau am berthnasedd profiadau bywyd; wedi helpu i chwalu'r rhaniad artiffisial rhwng profiadau seicolegol ac iechyd corfforol; ac wedi dechrau darparu dewis arall defnyddiol yn lle dull gor-feddygol o ymdrin â cholli pwysau.  Mae'r ACE-14 wedi darparu iaith sy'n gyfannol, ar y cyd, yn ystyrlon ac yn bragmatig o ran gwybodaeth wrth ddatblygu cynlluniau gofal personol ar gyfer unigolion. Yn ychwanegol, mae wedi cynnig tystiolaeth bendant o rôl ein profiadau o ran sut a pham rydym yn defnyddio bwyd fel strategaeth ymdopi ar gyfer trallod sy'n aml yn golygu bod unigolion yn rhy drwm ac yn byw gyda gordewdra.

cycle image welsh..png

Mae ACES yn brofiadau cyffredin o fewn y boblogaeth gyffredinol. O fewn ein gwasanaeth, maent yn fwy cyffredin. Mae'n bwysig ein bod yn parhau, fel gweithwyr iechyd proffesiynol, i adeiladu pontydd ar gyfer cydweithio trwy archwilio dulliau integredig sy'n ein galluogi i gynnig ymyriadau a gwasanaethau sydd wedi'u llywio gan ddealltwriaeth o drawma. Bydd hyn yn ei dro yn galluogi unigolion i brosesu a gwneud ystyr o'r adfyd a brofwyd ganddynt er mwyn gwella eu lles corfforol. Gan ddefnyddio dull ffurfio integredig, mae seicolegwyr yn y sefyllfa orau i fod yn rhan o'r trafodaethau hyn. Mae'n hanfodol bod gwasanaethau meddygol yn gallu manteisio ar arbenigedd seicolegwyr.

Mae'n fuddiol ac yn gysur fel clinigydd i wybod bod Hyb Cymorth ACE Iechyd Cyhoeddus Cymru yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd deall effaith ein profiadau ar ein lles seicolegol a chorfforol. Fy mhryder yw efallai nad yw'r llywodraeth a gweithwyr iechyd proffesiynol yn rhoi digon o bwyslais ar bwysigrwydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn Hyb Cymorth ACE Cymru a'r manteision estynedig y gallai hyn eu cael ar ymgyrchoedd pwysig eraill megis mynd i'r afael â gordewdra. Fy ngobaith yw y bydd y llywodraeth yn ceisio gwella'r Hyb Cymorth ACE yng Nghymru a darparu llwybrau iechyd clir sy'n cynnwys mynediad at arbenigedd seicolegol a all integreiddio ymagwedd sydd wedi'i llywio gan wybodaeth am drawma mewn gwasanaethau meddygol bob dydd.  Mae gan Gymru gyfle i ddod yn wlad sy'n wybodus am drawma wedi'i hysbrydoli gan yr Alban, sy'n ceisio dod yn wlad gyntaf y byd sy'n wybodus am drawma.” 

Ellie Toll